Cynhelir Mardi Gras (Ffrangeg: "Dydd Mawrth Tew") y diwrnod cyn dydd Mercher y Lludw. Mardi Gras yw'r diwrnod olaf o Garnifal, y tridiau cyn dechrau'r Grawys, sef y Sul, Llun a'r dydd Mawrth cyn dydd Mercher y Lludw.
Mewn nifer o lefydd ystyrir y cyfnod cyfan fel Mardi Gras. Efallai mai'r dinasoedd sydd fwyaf enwog am eu dathliadau Mardi Gras yw New Orleans, Louisiana a Mobile, Alabama, yn yr Unol Daleithiau a Sydney, Awstralia. Mae nifer o lefydd eraill yn dathlu Mardi Gras hefyd. Mae Carnifal yn ddathliad pwysig ledled Ewrop, heblaw am yn yr Iwerddon a gwledydd Prydain lle caiff y digwyddiad ei ddathlu trwy daflu a bwyta crempogau ar y dydd Mawrth. Gwelir hyn hefyd mewn rhannau o Dde America a'r Caribî.